Newyddion a lluniau Cyfle yn ystod blwyddyn hynod o lwyddiannus!
'LAB' ANIMEIDDIO DIGIDOL
Mae 'Lab' animeiddio 3 mis Cyfle yn cyfuno talent chwech o animeiddwyr proffesiynol a rhai sydd newydd raddio mewn gofod hyfforddi sydd ar ffurf 'lab'. Ei nod ydy cynnig ysbrydoliaeth greadigol i'r animeiddwyr cyd weithio a chynhyrchu ffilm animeiddio tri munud o hyd sydd yn flaenllaw ac yn addas ar gyfer y farchnad fasnachol.